top of page

NEW 2021

BTEC LEFEL 3 (120 CREDITS)

Mae Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 Pearson Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwrs dwy flynedd i ddisgyblion y 6ed dosbarth astudio yng C.A.5. Mae'r cwrs yn gyfwerth â dwy Lefel A, gyda pum uned orfodol a dwy ohonynt yn cael ei asesu yn allanol. Mae dysgwyr yn cwblhau 3 uned ychwanegol er mwyn cyrraedd y pwyntiau gofynnol i gwblhau'r cwrs Safon Uwch dwbl. Rhennir y cwrs fel yma; -

Cynnwys gorfodol (75%).

Asesiad allanol (25%).

Mae gwybodaeth am yr holl unedau a astudiwyd oddi dano'r neges yma.

Pearson BTEC Level 3 National Diploma in Uniformed Protective Services is a two year course for 6th for pupils to study in K.S.5. The course is the Equivalent in size to two A Levels, with five mandatory units, two of which are external. Learners complete an additional 3 units in order to reach the required points to complete the double A Level course.   

The course is split as followed :-

Mandatory content (75%).

External assessment (25%).

There is information about all the units studied bellow.

 1 - DINASYDDIAETH AC AMRYWIAETH/CITIZENSHIP AND DIVERSITY
1w.jpg
Copy of Gwas Cyhoeddus Logo.png
1E.jpg

Yn yr uned hon, byddwch chi’n archwilio nodweddion cymunedau yn y Deyrnas Unedig ac yn ymchwilio i rôl dinasyddiaeth mewn cymdeithas. Byddwch yn dysgu am hawliau unigolion ac yn archwilio sut mae dinasyddion a’r gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol yn cyflawni eu cyfrifoldebau. Ochr yn ochr â hyn, byddwch chi’n ymchwilio i’r gwahanol ddulliau gweithredu a ffyrdd a ddefnyddir gan wasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol yn y Deyrnas Unedig i hybu gwasanaeth amrywiol a chyfartal mewn byd newidiol. Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi ac ymchwil, gan holi a dehongli’r data i gefnogi penderfyniadau ynghylch agweddau megis newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth o ganlyniad i newidiadau demograffeg a ffactorau eraill.


Bydd yr uned hon yn cefnogi symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth ac ymarfer cynhwysol, cydraddoldeb a’r gymuned. Mae dealltwriaeth o sut mae cymdeithas a’r gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol yn cydweithio hefyd yn berthnasol er mwyn symud ymlaen i Brentisiaeth a chyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol.

 
Disgrifiad llawn
o Uned 1 

In this unit, you will examine a range of theories that underpin behaviour and how they are applied in the uniformed protective services. You will explore how authority is used to benefit both the individual and society, based on key types of authority in the public sector, making connections between theory and practice. In completing the assessment for this unit, you can draw on your learning from across the programme.

This unit will support your progression to higher-education courses that focus on behavioural dynamics, organisation and behaviour in the public sector and investigative psychology in public service, and to degree programmes specifically related to the uniformed protective services, such as policing, fire and rescue or offender management. Coupled with further study the skills and knowledge you develop in this unit will help you to progress in your career in the uniformed protective services.

 
Full  description
of Unit 1
 2 - YMDDYGIAD A DISGYBLAETH / BEHAVIOUR AND DISCIPLINE
2e2.jpg
2e1.jpg
2e3.png

Yn yr uned hon, byddwch yn archwilio ystod o ddamcaniaethau sy’n sylfaen ar gyfer ymddygiad, a sut maent yn cael eu cymhwyso yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol. Byddwch yn archwilio sut defnyddir awdurdod er budd yr unigolyn a chymdeithas, ar sail mathau allweddol o awdurdod yn y sector cyhoeddus, ac yn creu cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer. Wrth gwblhau’r asesiad ar gyfer yr uned hon, gallwch ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd ar draws y rhaglen.


Bydd yr uned hon yn eich cynorthwyo i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch sy’n canolbwyntio ar ddeinameg ymddygiad, trefniadaeth ac ymddygiad yn y sector cyhoeddus a seicoleg ymchwiliol mewn gwasanaeth cyhoeddus, ac i raglenni gradd sy’n ymwneud yn benodol â’r gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol, megis plismona, tân ac achub neu reoli troseddwyr. O’u cyplysu ag astudiaethau pellach, bydd y sgiliau a’r wybodaeth a ddatblygwch yn yr uned hon yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol.

 
Disgrifiad llawn
o Uned 2

In this unit, you will examine a range of theories that underpin behaviour and how they are applied in the uniformed protective services. You will explore how authority is used to benefit both the individual and society, based on key types of authority in the public sector, making connections between theory and practice. In completing the assessment for this unit, you can draw on your learning from across the programme.


This unit will support your progression to higher-education courses that focus on behavioural dynamics, organisation and behaviour in the public sector and investigative psychology in public service, and to degree programmes specifically related to the uniformed protective services, such as policing, fire and rescue or offender management. Coupled with further study the skills and knowledge you develop in this unit will help you to progress in your career in the uniformed protective services.

 
Full  description
of Unit 2
 4 - PARATOAD CORFFOROL, IECHYD A LLESIANT / PHYSICAL PREPERATION, HEALTH AND WELLBEING
ffitrwydd1.png
wellness.png
health.jpg

Yn yr uned hon, byddwch chi’n ystyried gwahanol elfennau o ffitrwydd a sut mae hyfforddi’n effeithiol. Byddwch chi’n archwilio gwahanol fathau o hyfforddiant a sut mae pob math yn cael ei ddefnyddio i wella iechyd a llesiant unigolyn. Byddwch yn archwilio gwahanol ffactorau ffordd o fyw, a pham maen nhw’n bwysig os ydych chi’n bwriadu ymuno â’r gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol. Byddwch yn dysgu sut mae cyflawni ffordd iach a chytbwys o fyw, ac yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gwahanol brofion ffitrwydd sy’n asesu’r safonau a bennir gan wasanaeth amddiffyn penodol sydd â gwisg swyddogol.

 

Bydd yr uned hon yn helpu i’ch paratoi ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch. Mae’r uned yn arbennig o berthnasol ar gyfer symud ymlaen i raglenni sy’n integreiddio ffitrwydd neu chwaraeon ag ymgysylltu parhaus â gwasanaethau amddiffyn lleol sydd â gwisg swyddogol. Bydd yr uned hefyd yn eich paratoi i gyflawni gofynion ffitrwydd gwasanaeth amddiffyn sydd â gwisg swyddogol, gan gynnal eich symudiad ymlaen i gyflogaeth. Bydd yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth a gewch yn yr uned hon yn eich cefnogi i gynnal isafswm lefel o ffitrwydd, a fydd yn ofynnol neu’n fuddiol ar gyfer astudio pellach a rolau cyflogaeth yn y sector.

 
Disgrifiad llawn
o Uned 4

In this unit, you will consider different fitness components and how to train effectively. You will explore different types of training and how each type is used to improve an individual’s health and wellbeing. You will examine different lifestyle factors and why they are important if you are planning to enter the uniformed protective services. You will find out how to achieve a healthy and balanced lifestyle, and will have the opportunity to take part in the different fitness tests that assess the standards set by a specific uniformed protective service.


This unit will help to prepare you to progress to higher-education courses. The unit is particularly relevant for progression to programmes that integrate fitness or sport with ongoing engagement with local uniformed protective services. The unit will also prepare you to meet the fitness requirements of a uniformed protective service, supporting your progression to employment. The knowledge and understanding you gain in this unit will support you in maintaining a minimum level of fitness, which will be required or beneficial in further study and employment roles in the sector.

 
Full  description
of Unit 4
 5 - GWAITH TIM, ARWEINYDDIAETH A CHYFATHREBU / TEAMWORK, LEADERSHIP AND COMMUNICATION
team2.png
team1.jpg
lead1.jpg

Yn yr uned hon, byddwch chi’n dysgu am arweinyddiaeth, ac yn ymchwilio i’r gwahanol arddulliau arwain a’r defnydd gorau ohonynt yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol. Byddwch yn dysgu sut mae bod yn aelod effeithiol o’r tîm wrth ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, a byddwch yn cael cyfle i roi’r sgiliau hynny ar waith mewn gwahanol sefyllfaoedd. Byddwch yn dod i ddeall y gwahanol fathau o systemau cyfathrebu a ddefnyddir gan y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol, a phwysigrwydd cyfathrebu clir, ynghyd â dysgu sut mae’r systemau hyn wedi galluogi’r gwasanaethau i ddod yn fwy effeithlon. Wrth gwblhau’r tasgau asesu ar gyfer yr uned hon, gallwch chi ddefnyddio’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu ar draws eich rhaglen.


Bydd cwblhau’r uned yn eich helpu i symud ymlaen i raglenni gradd neu brentisiaeth sy’n canolbwyntio ar waith gyda sefydliadau allanol, ac i gyflogaeth.

 
Disgrifiad llawn
o Uned 5

In this unit, you will learn about leadership, investigating the different styles of leadership and how they are best used in the uniformed protective services. You will learn how to be an effective team member while developing leadership skills and will have the opportunity to apply these skills in different situations. You will gain an understanding of the different types of communication systems used by the uniformed protective services, and the importance of clear communication, together with learning how these systems have enabled the services to become more efficient. In completing the assessment tasks for this unit, you can draw on your learning from across your programme.


Completing the unit will help you to progress to degree or apprenticeship programmes that focus on work with external organisations and to employment.

 
Full  description
of Unit 5
 10 - SGILIAU AR GYFER GWEITHGAREDDAU AWYR AGORED / SKILLS FOR OUTDOOR ACTIVITIES
peny fan1.jpg
act3.jpg

Mae’r uned hon yn rhoi cyfle i chi gyfranogi mewn gweithgareddau awyr agored. Byddwch chi’n gallu datblygu sgiliau mewn gweithgareddau penodol ac adolygu eich perfformiad yn erbyn disgwyliadau grŵp a phersonol. Byddwch chi’n datblygu eich dealltwriaeth o’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gyfranogi mewn gweithgareddau awyr agored. Byddwch yn canolbwyntio ar y cysyniad o arfer da yn y sector awyr agored, ochr yn ochr â chydnabod ei fod yn hanfodol meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o’r amgylchedd lle mae’r gweithgareddau’n cael eu cynnal. Byddwch yn astudio detholiad o weithgareddau’n fanwl, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau a’ch technegau ymarferol, sy’n hanfodol ar gyfer cyfranogiad diogel, effeithlon ac annibynnol. Byddyr uned hon yn caniatáu i chi ddatblygu eich lefel o allu corfforol yn yr awyr agored.


Bydd yr uned hon yn eich helpu i symud ymlaen i astudio rhaglen addysg uwch sy’n integreiddio gweithgareddau awyr agored a/neu chwaraeon ag ymgysylltiad parhaus â gwasanaethau amddiffyn lleol sydd â gwisg swyddogol neu ymarferion penodol gyda gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol. Anogir dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen o addysg uwch i’r broses dethol swyddogion yn y lluoedd arfog i gyfranogi mewn hyfforddiant gweithgareddau awyr agored er mwyn datblygu ffitrwydd, gwydnwch a sgiliau arweinyddiaeth i gryfhau eu cais. Bydd y sgiliau a ddatblygir yn yr uned hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer symud ymlaen i ystod o gyfleoedd cyflogaeth a phrentisiaethau yn y sector awyr agored. Mae mynediad i gyflogaeth yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol yn amodol ar ymgeiswyr yn bodloni
gofynion ffitrwydd corfforol.

 
Disgrifiad llawn
o Uned 10
act2.jpeg
ac1.jpg

This unit gives you the opportunity to participate in outdoor activities. You will be able to develop skills in specific activities and review your performance against group and personal expectations. You will develop your understanding of the skills needed to participate in outdoor activities. You will focus on the concept of good practice in the outdoor sector, while recognising that it is essential to have a knowledge and understanding of the environment where the activities take place. You will study a selection of activities in depth, focusing on developing your practical skills and techniques, which are essential for safe, efficient and independent participation. This unit will allow you to develop your level of physical ability in the outdoors.


This unit will help you to progress to studying a higher education programme that integrates outdoor activities and/or sport with ongoing engagement with local uniformed protective services or specific exercises with uniformed protective services. Learners wishing to progress from higher education to the officer selection process in the armed services are encouraged to participate in outdoor activities training in order to develop fitness, resilience and leadership skills to strengthen their application. The skills developed in this unit will give you a good foundation to progress to a range of employment opportunities and apprenticeships in the outdoor sector. Entry to employment in the uniformed protective services is dependent on applicants meeting physical fitness requirements.

 
Full  description
of Unit 10
 11 - SGILIAU ALLDEITHIAU / EXPEDITION SKILLS
walk.jpg
kit.jpg
map.jpg
tent.jpg

Yn yr uned hon, byddwch chi’n ymchwilio i alldeithiau yn y gorffennol, gan archwilio hanes yr unigolion a’r timau enwocaf a mwyaf llwyddiannus. Byddwch hefyd yn edrych ar alldeithiau llai hysbys sydd wedi newid sut mae alldeithiau modern yn cael eu cynllunio a’u cynnal. Byddwch yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol i gynllunio a chynnal alldaith ac yn cael cyfle i arddangos y sgiliau hyn trwy gynllunio, cynnal ac adolygu eich alldaith eich hun. Mae’r uned hon yn datblygu sgiliau ac yn gwella’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i arwain tîm ar alldaith. Mae llawer o’r sgiliau hyn yn rhai trosglwyddadwy i dasgau eraill sy’n cael eu cyflawni yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol.


Bydd yr uned hon yn eich helpu i symud ymlaen i astudio rhaglenni addysg uwch sy’n integreiddio gweithgareddau alldaith ag ymgysylltu parhaus â gwasanaethau amddiffyn lleol sydd â gwisg swyddogol neu ymarferiadau penodol gyda gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol. Bydd y sgiliau rydych chi’n eu datblygu yn arbennig o ddefnyddiol os byddwch am symud ymlaen i’r broses o ddethol swyddogion yn y lluoedd arfog ar ôl cwblhau hyfforddiant neu gymwysterau pellach. Bydd yr uned hon yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau arweinyddiaeth a chynllunio sy’n angenrheidiol i gymryd rhan ym meysydd ymarferol cyflogaeth neu brentisiaethau yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol, mewn meysydd megis tân ac arweinyddiaeth a phlismona.

 
Disgrifiad llawn
o Uned 11

In this unit, you will examine a range of theories that underpin behaviour and how they are applied in the uniformed protective services. You will explore how authority is used to benefit both the individual and society, based on key types of authority in the public sector, making connections between theory and practice. In completing the assessment for this unit, you can draw on your learning from across the programme.

This unit will support your progression to higher-education courses that focus on behavioural dynamics, organisation and behaviour in the public sector and investigative psychology in public service, and to degree programmes specifically related to the uniformed protective services, such as policing, fire and rescue or offender management. Coupled with further study the skills and knowledge you develop in this unit will help you to progress in your career in the uniformed protective services.

 
Full  description
of Unit 11
 12 - DATBLYGU RHAGLENNI FFITRWYDD PERSONOL / DEVELOPING PERSONAL FITNESS PROGRAMMES
run.jpg
bike.jpg

Er mwyn cwblhau’r asesiad ar gyfer yr uned hon, bydd angen i chi wneud defnydd helaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau a gawsoch yn Uned 4: Paratoad Corfforol, Iechyd a Llesiant. Bydd hyn yn eich galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth am hyfforddiant ffitrwydd trwy ei rhoi ar waith. Byddwch yn defnyddio eich rhaglen hyfforddiant ffitrwydd i baratoi ar gyfer gofynion gweithio yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol. Byddwch yn adolygu eich ffitrwydd eich hun, ac yn addasu ac ehangu’r rhaglen ffitrwydd a luniwyd gennych yn Uned 4: Paratoad Corfforol, Iechyd a Llesiant. Yna byddwch chi’n cyflawni’r rhaglen er mwyn gwella eich ffitrwydd ar gyfer cyflogaeth yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol. Yn yr uned hon byddwch chi’n cyflawni gwahanol fathau o hyfforddiant ffitrwydd, gan gynnwys dulliau o wella hyblygrwydd, cryfder, gwydnwch y cyhyrau, pŵer, gwydnwch aerobig a chyflymdra. Bydd yr uned hon yn eich cefnogi i symud ymlaen i raglenni addysg uwch cysylltiedig â ffitrwydd a chwaraeon, ac i radd sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol. 

Bydd yr uned hon yn eich paratoi i gyflawni gofynion ffitrwydd y gwahanol rolau yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol ac yn datblygu eich dealltwriaeth o roi ffitrwydd ar waith. Gallwch ddefnyddio’r sgiliau a gewch yn yr uned hon i gryfhau cais am gyflogaeth neu brentisiaeth mewn un o’r gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogolaen i Brentisiaeth a chyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol.

 
Disgrifiad llawn
o Uned 12
pt.jpg
class3.jpg

In order to complete the assessment for this unit, you will need to draw extensively on your knowledge and skills from Unit 4: Physical Preparation, Health and Wellbeing. This will enable you to apply your knowledge of fitness training by putting it into practice. You will use your fitness training programme to prepare for the requirements of working in the uniformed protective services. You will review your own fitness, and amend and expand on the fitness programme you have written in Unit 4: Physical Preparation, Health and Wellbeing. You will then carry out the programme to improve your fitness for employment in the uniformed protective services. This unit involves you carrying out different methods of fitness training, including methods to improve flexibility, strength, muscular endurance, power, aerobic endurance and speed.


This unit will support you in progressing to higher-education fitness and sport-related programmes, and to a uniformed protective services related degree. This unit will prepare you to meet the fitness requirements of the different uniformed protective services roles and will further your understanding of fitness implementation. You can use the skills you gain in this unit to strengthen an application for employment or an apprenticeship in one of the uniformed protective services.

 
Full  description
of Unit 12
 19 - DATBLYGIAD PROFFESIYNOL / PROFESSIONAL DEVELOPMENT
pd1.jpg
pd3.jpg

Yn yr uned hon, byddwch chi’n ymchwilio i’r gwahanol yrfaoedd posibl a’r rolau swyddi cysylltiedig yn y gwasanaethau amddiffyn. Wrth i chi symud trwy’r uned, cewch gyfle i ddadansoddi eich sgiliau eich hun a chanfod sut mae eu datblygu’n yrfa trwy ddefnyddio cynllun gyrfa, a gwneud gwaith ymchwil ar eich dewis o yrfa er mwyn deall sut mae cael mynediad iddi a symud ymlaen ynddi. Mae’r uned yn golygu bod modd i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgeisio a chyfweld ar gyfer llwybr gyrfa a ddewiswyd, gan ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau a gafwyd ar hyd y cymhwyster i ganfod eich cryfderau eich hun a bylchau yn eich gwybodaeth a’ch sgiliau. Byddwch chi’n gwerthuso eich perfformiad eich hun er mwyn dod i ddeall beth yw’r sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol a’r wybodaeth a’r sgiliau technegol penodol sy’n ofynnol i gael mynediad i lwybr gyrfa a ddewiswyd a symud ymlaen yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol, cyn datblygu cynllun gweithredu tuag at gyflawni eich nod o ran gyrfa a ddewiswyd.


Bydd yr uned hon yn eich cefnogi i symud ymlaen i raglenni addysg uwch yn sector y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol. Bydd yr uned hon hefyd yn eich paratoi i symud ymlaen i yrfa yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol trwy ddatblygu eich dealltwriaeth o ymchwilio a chynllunio gyrfa a’ch gwneud yn ymwybodol o’r sgiliau a’r priodweddau mae cyflogwyr yn y gwasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol yn chwilio amdanynt mewn darpar gyflogai.

 
Disgrifiad llawn
o Uned 19
pd2.jpg
pd4.jpg

In this unit, you will research the different possible careers and the associated job roles in the protective services. As you move through the unit, you have the opportunity to analyse your own skills and identify how to develop them into a career through the use of a career plan, researching your chosen career to understand how to access and progress within it. The unit allows you to take part in application and interview assessment activities for a selected career pathway, drawing on knowledge and skills from across the qualification to identify your own strengths and gaps in knowledge and skills. You will evaluate your own performance to gain an understanding of the generic employability and specific technical knowledge and skills required to access and progress in a selected career pathway in the uniformed protective services, and then develop an action plan towards achieving your selected career aim.


This unit will support you in progressing to higher-education programmes in the uniformed protective services sector. This unit will also prepare you for progression to a career in the uniformed protective services by developing your understanding of investigation, career planning and giving you an awareness of the skills and qualities that uniformed protective services employers look for in a potential employee.

 
Full  description
of Unit 19

GWEFAN DIJ  AR GYFER YGYBD

bottom of page