
BTEC LEFEL 2 (50 CREDITS)
Cwrs ar gyfer disgyblion C.A.4 i astudio yn blynyddoedd 10 ac 11. Mae'r holl graddau wedi selio ar cwblhau 4 uned gwahanol.Mae 3 o'r unedau wedi selio ar cwblhau gwaith cawrs, lle mae Uned 1 wedi selio ar arholiad allannol. gwaith cwrs ac nid oed unrhyw arholiadau allanol i wneud. Mae'r cwrs cyfwerth 1 TGAU . Mae'r disgrifiad o'r unedau a astudiwyd yma i chi ddarllen.
A course for pupils in K.S.4 to study in years 10 and 11. All grades have been sealed on the completion of 4 different units. 3 of the units are based on completing course work in order to pass, where as Unit 1 is based on passing an external exam. The course is the equivalent of a full GCSE course. The description of the units studied here is for you to read.
Cyflwyniad cymraeg
english presentation
UNED 1 - ROL A GWAITH Y GWASANAETHAU CYHOEDDUS



Fyddwch chi weithiau’n meddwl sut mae eich sbwriel yn cael ei gasglu bob wythnos, pwy sy’n cynnal ein ffyrdd a’n strydoedd ac yn darparu goleuadau stryd, sut rydych chi’n gallu mynd i’r ysgol bob dydd ac elwa o dderbyn addysg, sut rydych chi’n gallu mynd at y meddyg i gael triniaeth pan fyddwch chi’n sâl, neu sut rydych chi’n cael eich amddiffyn rhag trosedd?
Mae llawer o sefydliadau sector cyhoeddus gwahanol yn y DU sy’n darparu amrywiaeth enfawr o wasanaethau ar ein cyfer. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu mewn amrywiaeth o ffyrdd a hynny gan sefydliadau unigol gwasanaethau cyhoeddus ac mewn partneriaeth gydag eraill, yn cynnwys sefydliadau o’r sectorau preifat a gwirfoddol/trydydd sector.
Bydd yr uned hon yn eich galluogi i archwilio sut mae’r gwasanaethau cyhoeddus wedi eu grwpio a’u rolau a’u gwaith. Byddwch yn dysgu am y ffyrdd y mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu, a sut y maen nhw’n cael eu darparu. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae cyllido’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau a sut mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dal yn atebol.
Mae sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn y DU yn darparu gwasanaethau yn lleol ac yn genedlaethol. Mae darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn cynnwys cyfraniadau gan sefydliadau’r sector preifat a gwirfoddol/trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu i gwrdd ag anghenion y cyhoedd.
Trethiant yw prif ffynhonnell ar gyfer cyllido gwasanaethau cyhoeddus y DU o hyd, ond caiff hwn ei gefnogi gan amrywiaeth o ffynonellau eraill megis gwasanaethau cyhoeddus yn codi ar y cyhoedd am y gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu a gwneud ceisiadau am gyllid penodol gan gyrff megis y Loteri Genedlaethol a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae newidiadau mewn cyllido’n cael effaith ar y gwasanaethau sy’n gallu cael eu darparu, ac mae gwasanaethau cyhoeddus y DU yn atebol i’r llywodraeth a’r cyhoedd am y gwaith maen nhw’n ei wneud. Rydym i gyd eisiau bod yn siŵr fod yr arian sy’n cael ei godi drwy drethu unigolion a sefydliadau’n cael ei ddefnyddio’n ddoeth.
UNED 2 - SGILIAU GWAITH YN Y GWASANAETHAU



Dychmygwch eich bod yn y fyddin yn gweithio dramor a’ch bod yn rhan o waith cadw heddwch. Sut fyddech chi’n goresgyn y problemau iaith a’r gwahaniaethau diwylliannol? Tasech chi’n weithiwr cyngor, sut fyddech chi’n cefnogi cwsmer yn eich swyddfa fyddai angen llenwi gwaith papur?
Mae gwahanol wasanaethau cyhoeddus yn delio gyda’u cwsmeriaid mewn ffyrdd gwahanol, gan fod gwaith pob gwasanaeth cyhoeddus yn wahanol. Fodd bynnag,yr hyn sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin yw’r defnydd o sgiliau i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid unigol wrth weithio gyda chwsmeriaid o wahanol gefndiroedd.
Cefnogi’r cyhoedd yw prif nod y gwasanaethau cyhoeddus, felly yr allwedd yw eich rôl a sut y byddwch yn ei gwblhau. Yn y gwasanaethau cyhoeddus gallech fod yn gweithio mewn swyddi lle mae angen i chi weithredu’n gyflym i achub bywyd, neu i helpu rhywun mewn angen. Efallai y byddai rhaid i chi weithio gyda chydweithwyr nad ydych yn eu hadnabod er mwyn datrys gwrthdaro cyn i bethau fynd allan o reolaeth.
Bwriad yr uned hon yw rhoi dealltwriaeth i chi o gwsmeriaid gwasanaethau cyhoeddus a’r sgiliau gwaith y mae personél gwasanaethau cyhoeddus yn eu defnyddio i gwrdd ag anghenion eu cwsmeriaid. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i chi archwilio pwysigrwydd cael sgiliau gwaith effeithiol. Bydd yr uned hon yn rhoi’r offer sydd eu hangen arnoch chi i ddelio gydag amrywiaeth o sefyllfaoedd yn effeithiol ac yn hyderus. Gorau arf arfer medd y ddihareb, felly fe gewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau gwaith mewn amrywiaeth o wahanol weithgareddau.
UNED 3 - CYFLOGAETH YN Y GWASANAETHAU CYHOEDDUS



Ydych chi’n meddwl am weithio yn y gwasanaethau cyhoeddus? Ydych chi wedi edrych y tu hwnt i’r cyhoeddusrwydd cychwynnol am y swyddi sydd ar gael? Nod yr uned hon yw rhoi peth gwybodaeth fanwl i chi am swyddi sydd ar gael yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith. Mae rhai gwasanaethau’n gwisgo lifrau ond mae llawer mwy yn wasanaethau heb lifrau. Mae gan y rhan fwyaf o swyddi sydd ar gael yn y sector preifat rôl gyfatebol yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r uned hon yn caniatáu i chi ymchwilio i’r prif waith y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud. Fe gewch chi’r cyfle i edrych ar wasanaethau lifrau a rhai heb lifrau, a beth maen nhw’n ei wneud fel rhan o ddiwrnod gwaith nodweddiadol.
Bydd eich astudiaethau wedyn yn symud i edrych ar y cyfleoedd am waith ac amodau gwasanaeth. Mae hyn yn fwy nag astudio dim ond beth maen nhw’n ei wneud. Er enghraifft, ydych chi’n gwybod faint o wyliau y byddech chi’n disgwyl eu cael mewn blwyddyn? Ydych chi’n gwybod faint byddech chi’n cael eich talu? Bydd yr uned hon yn helpu i roi gwybod i chi am bethau fel hyn.
Byddwch hefyd yn archwilio’r gwahanol brosesau gwneud cais a phenodi sydd gan y gwahanol wasanaethau cyhoeddus. Byddwch yn dysgu am y gwahanol ofynion mynediad y bydd rhaid i chi eu bodloni yn ogystal â sut i wneud cais am swyddi yn y sector gwasanaethau cyhoeddus.
Byddwch hefyd yn dysgu am y gofynion y bydd angen i chi eu bodloni i gael eich penodi. Ar ôl i chi gwblhau’r uned hon yn llwyddiannus, byddwch mewn lle da i wneud penderfyniad gwybodus hysbys am ba swyddi y gallech fod am fynd i weithio ynddyn nhw, y gofynion y bydd angen i chi eu bodloni i wneud cais a chael eich penodi, a beth fyddwch chi’n ei wneud yn y swydd os byddwch yn llwyddo i gael y swydd honno.
UNED 5 - IECHYD, FFITRWYDD A FFORDD O FYW



Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae deiet a ffordd o fyw’n gallu cael cymaint o effaith ar eich ffitrwydd? Pam mae rhai pobl yn gallu bwyta faint fynnan nhw ac aros yn denau? Oes rhaid iddyn nhw wneud llawer o ymarfer corff? Ydych chi erioed wedi meddwl pa fath o iechyd a ffitrwydd fyddai angen arnoch chi i weithio mewn rhai gwasanaethau cyhoeddus? Neu’r mathau o brofion ffitrwydd y gallai’r gwahanol wasanaethau cyhoeddus eu defnyddio?
Yn yr uned hon byddwch yn edrych ar effeithiau deiet, maethiad a ffordd o fyw ar ffitrwydd person, ac o ganlyniad byddwch yn ystyried eich ffitrwydd eich hun. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen ar gyfer deiet cytbwys a’r effeithiau y gall maethiad da neu wael ei gael. Byddwch hefyd yn edrych ar wahanol agweddau o ffordd o fyw ac yn archwilio a ydyn nhw’n llesol neu’n niweidiol i’ch iechyd a’ch ffitrwydd. Bydd y ffactorau ffordd o fyw gwahanol y byddwch yn edrych arnyn nhw’n cynnwys effeithiau ysmygu, alcohol, cyffuriau a deiet. Drwy hyn byddwch yn gweld nad hyfforddiant ffitrwydd yw’r unig ffordd i reoli iechyd a ffitrwydd.
Byddwch hefyd yn datblygu eich gwybodaeth am ofynion iechyd a ffitrwydd ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus. Oes yna nodau penodol y mae’n rhaid i chi eu cyrraedd i gael mynediad i’r gwasanaeth hwnnw a pha mor aml allai’ch ffitrwydd gael ei wirio unwaith y byddwch yn y swydd? I ateb y cwestiynau hyn, byddwch yn gwneud ymchwil i ofynion gwahanol wasanaethau, rhai mewn lifrau ac eraill, ac yn ystyried sut y byddech chi’n cynnal y lefel honno o iechyd a ffitrwydd.
Bydd yr uned hon yn rhoi’r cyfle i chi wneud ymchwil i rai o’r gwahanol brofion ffitrwydd a phrofion blynyddol sy’n cael eu cynnal o fewn y gwasanaethau cyhoeddus. Drwy drefnu, cwblhau neu fonitro profion tebyg, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r rhesymau pam mae profion fel hyn yn cael eu cynnal a’u perthnasedd i’r gwaith sy’n rhan o’r rôl.